Low Impact Living


Saesneg

Home
 
       
   

Bywyd Effaith Isel

Cyflwyniad

I fyw bywyd effaith isel mae angen byw yn ysgafn ar y ddaear.

Hanfod hyn yw rheoli'r amgylchedd amgylchynol yn ddeallus a thrylwyr er mwyn uchafu cynnyrch (o ran egni, dwr, bwyd, lloches a chynnyrch) ac isafu gwastraff (drwy ailgylchu, compostio a systemau ynni effeithlon).

Yn ymarferol, golyga hyn fabwysiadu ffordd o fyw syml, lleol, yn seiliedig ar dir sydd yn gweithio gyda’r tir a’r cylchredau naturiol sydd ar gael i ni.

Er mwyn archwilio bywyd effaith isel, mae’n angenrheidiol creu system integredig o breswylfeydd ac isadeileddau sy’n abl i gefnogi menter o’r fath.

 

harvesting reeds

 
      Tinkers Bubble  
       
     
   

Datblygiad Effaith Isel

“Mae datblygiad Effaith Isel yn un sydd, drwy ei effaith amgylcheddol negatif isel, naill ai’n ehangu neu ddim yn cael lleihad sylweddol ar safon amgylcheddol.”

Simon Fairlie

 

Darpara ddatblygiad Effaith Isel gyfle digynsail i ailboblogi cefn gwlad drwy bobl sy’n ymroddedig i fywyd yn seiliedig ar dir ac sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.

Bwriada Lammas arddangos ei bod yn bosib byw bywyd modern heb gost i’r ddaear. Mae bodau dynol, drwy fyw ar y tir, yn gallu datblygu perthynas gyd-fuddiol gyda’r byd naturiol sy’n gallu cefnogi bywyd gwallt a diwylliant dynol.

Rydyn ni, fel bodau dynol, yn ddibynnol ar y ddaear am ein hanghenion. Rydyn ni’n rhan gynhenid o we bywyd, yn wir rydyn ni mewn safle breintiedig. Gyda stiwardiaeth dda mae’r potensial ar gyfer amrywiaeth a digonedd yn enfawr. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy uno rheolaeth oleuedig o’n byd naturiol a’i hintegreiddio gyda rheolaeth y tir i ddiwallu ein hanghenion. Gofynna hyn am gysylltiad personol a chyfarwydd gyda’n hamgylchfyd, ac i bobl fyw a gweithio gyda’r rhythmau naturiol a’r cylchredau sy’n ffurfio’n byd.

Polisi Effaith Fechan

Mae polisi cynllunio newydd Sir Benfro ar Ddatblygiad Effaith Isel (polisi 52) yn torri tir newydd yn ei ddull o ddatblygu cynaliadwy yng nghefn gwlad.

I gysylltu â gwefan Cyngor Sir Penfro a gweld y polisi, cliciwch yma

lammas AGM lammas meeting simon dale

Ymgyrch:  Awst 2008  - 10 Hydref 2008

Sefydlu polisi bach ei effaith yng Nghymru

Mae Cynulliad Cymru yn gwahodd adborth ar ei bolisi newydd i gefnogi datblygiad cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig.

Y newyddion da yw bod datblygiad bach ei effaith yn rhan ohono.

Fodd bynnag, credwn fod angen llawer o waith o hyd i fod o unrhyw ddefnydd iawn.  Os ydych yn byw yng Nghymru, dyma lle y gallwch helpu.

Maent yn benodol yn gofyn am adborth ar ddau gwestiwn.  Hoffem hefyd gwestiynu rhai o’r rhagdybiaethau maent yn eu gwneud.

(I gysylltu’n uniongyrchol â gwefan ymgynghori Cynulliad Cymru, cliciwch yma)

 

Ffordd gyflym a hawdd i helpu:

E-bostiwch y canlynol i planning.division@wales.gsi.gov.uk

"Ymateb i’r PAPUR YMGYNGHORIAD

NEWIDIADAU POLISI CYNLLUNIO I GEFNOGI DATBLYGIAD CYNALIADWY MEWN ARDALOEDD GWLEDIG

DIWALLU ANGHENION TAI

RHAN 3 DATBLYGIAD BACH EI EFFAITH (DBE)

Cwestiynau

C18.  A ddylai cynlluniau DBE gael eu caniatáu ar dir a ddatblygwyd eisoes yn unig?

Ateb: Dylid caniatáu cynlluniau DBE yng nghefn gwlad agored.

C19.  Pa brofion dylid eu gosod wrth ystyried ceisiadau cynllunio DBE?

Ateb:  Dylid mabwysiadu dadansoddi ôl-troed ecolegol fel y prif brawf ar gyfer DBE.

Yn ychwanegol:

Dylid annog pob Awdurdod Lleol i fabwysiadu polisi DBE.

Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth rhwng prosiectau DBE unigol a chymunedau DBE."

 

 

 

 
   

Next

     
     
     
     
     
     
 
    > Eco Village - Introduction > Community > Proposal > People > News
SITE MAP
Home > Get Involved - Introduction > Buy a Share > Become a Friend > Volunteer - Write a Letter > Contact
    > Low Impact Living - Introduction > Campaign > Gallery > Links - Courses - Products
Site by LSI-Tech
© lammas 2007